Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 19 Hydref 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 11:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Rebecca Evans Russell George Vaughan Gething Llyr Huws Gruffydd Julie James Antoinette Sandbach Mark Drakeford Eluned Parrott |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Llewelyn Rhys, Pennaeth, RenewableUK Cymru Piers Guy, Pennaeth Datblygu, Nuon Renewables Caroline McGurgan, Rheolwr Prosiect, Eco2 John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Christianne Glossop, Chief Veterinary Officer Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Virginia Hawkins (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Graham Winter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees a William Powell. Roedd Mark Drakeford ac Eluned Powell yn dirprwyo.
2. Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth gan RenewableUK Cymru
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch polisi ynni a chynllunio yng Nghymru.
2.2 Cytunodd Llewelyn Rhys i ymgynghori ag Aelodau’r Pwyllgor i ddrafftio protocol ar gyfer Cymru ynghylch ymgynghori â chymunedau fel rhan o’r cynlluniau datblygu ar gyfer prosiectau ynni, gan gynnwys y manteision cymunedol.
2.3 Cytunodd Piers Guy i ddarparu manylion gwybodaeth ynghylch manteision cymunedol ar gyfer y prosiectau y mae Nuon Renewables wedi bod yn gysylltiedig â hwy.
2.4 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y tystion i ddod i sesiwn dystiolaeth arall.
3. Cyllideb ddrafft 2012-13: Craffu ar waith Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
3.1 Ymatebodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’i swyddogion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch treulio anaerobig a manylion y costau sy’n gysylltiedig â chreu un corff amgylcheddol.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.